Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 – Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Hydref 2023
Amser:
09.03 -
10.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13776
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Tom Giffard AS (Cadeirydd) Joyce Watson AS (Cadeirydd) Vikki Howells AS Altaf Hussain AS Adam Price AS Jack Sargeant AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon
Croesawodd y Cyd-Gadeirydd, Joyce Watson AS, yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cynllun Trin Cyfathrebiadau
Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan gynrychiolwyr tîm Newyddion a Chyfathrebu Comisiwn y Senedd.
3 Trafodaeth a Chamau Nesaf
Bu'r Pwyllgor yn ystyried papur briffio yn amlinellu'r opsiynau ynghylch cynghorwyr arbenigol ac academyddion i gefnogi gwaith y Pwyllgor.
Trafododd yr aelodau opsiynau ar gyfer y camau nesaf y gellid eu cymryd cyn i Ymchwiliad Covid y DU gyhoeddi ei adroddiad ar ei Fodiwl 1 ddechrau haf 2024.
Cytunodd y Pwyllgor i gyfarfod nesaf yn gynnar yn 2024 ag academyddion ac arbenigwyr, er mwyn cael cyngor ar faterion perthnasol sy’n codi yn sgil modiwlau Ymchwiliad Covid y DU.
At hynny, bydd y Pwyllgor yn cael sesiwn friffio ar y fframwaith paratoadau sifil yng Nghymru i'n helpu i ddeall y maes hwn. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal yn gyhoeddus. At hynny, cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi datganiad o fwriad yn y cyfamser, er mwyn amlinellu gwaith arfaethedig y Pwyllgor.